Wednesday, 27 January 2010

Gwirfoddolwr ar gyfer Ymholiadau’r Gwirfoddolwyr

Rydym yn chwilio am wirfoddolwr a all ein helpu i roi sylw i’r ymholiadau rydym yn eu derbyn gan wirfoddolwyr eraill! Mae gennym broses glir (diagram hyd yn oed!) i arwain y broses.

Byddwch yn rhan o dîm o staff a gwirfoddolwyr a gallwch gael eich lleoli yn swyddfa Bangor neu Dafarn-y-gelyn. Rydym yn disgwyl y bydd raid wrth ryw ddeuddydd o ymroddiad ond gellir rhannu hyn rhwng 2 neu fwy o wirfoddolwyr hefyd. Edrychwch yn yr adran wirfoddoli yn ein gwefan os gwelwch yn dda am ragor o wybodaeth gefndir.

Darperir hyfforddiant priodol.

Diddordeb? Cysylltwch â ResiTomat@wildlifetrustswales.org